Deiseb Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag ESTYN i leihau pwysedd a disgwyliadau yn ystod arolygiadau ESTYN ar gyfer darparwyr addysg feithrin nas cynhelir yng Nghymru.
Mae ymarferwyr y blynyddoedd cynnar ledled Cymru yn gwbl ymroddgar i feithrin ac addysgu plant ifanc. Gall y pwysedd a'r disgwyliadau sy'n ymwneud ag arolygiadau Estyn, fodd bynnag, achosi straen meddyliol a chorfforol sylweddol, gan gynnwys pryder, nosweithiau di-gwsg, blinder a cholli hyder. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ESTYN i sicrhau dull tecach, mwy cefnogol a chymesur sy'n cynnal safonau uchel ac ar yr un pryd yn diogelu lles ymarferwyr ac yn cydnabod realiti addysg y blynyddoedd cynnar.
Rhagor o fanylion
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru ac ESTYN i ddiwygio arolygiadau ar gyfer darparwyr addysg feithrin nas cynhelir yng Nghymru, a rhoi mwy o ystyriaeth i lesiant staff. Mae angen i arolygiadau roi darlun teg o leoliad, gan gydnabod na ellir dangos lefel ddysgu a datblygiad plant yn deilwng o fewn amser arsylwi byr. Rydym eisiau gweld disgwyliadau clir a chyson, gofynion cymesur o ran tystiolaeth, adborth adeiladol a ffocws ar wella. Gall ofn, a phwysedd o ran canlyniadau arolygiadau beri i ymarferwyr profiadol ac angerddol amau eu galluoedd a'u hyder. Gall hyn effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u lles corfforol, ac ar foràl staff a lefelau cadw staff. Nid ydym yn gofyn am safonau is na llai o atebolrwydd. Rydyn ni eisiau dull sy'n diogelu plant ac yn trin y gweithlu â thegwch, tosturi a pharch. Mae'r rhai sy'n gofalu am ein plant ieuengaf yn haeddu teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi, ac y gallant ffynnu.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd