Deiseb ACHUB WARD LANSDOWNE – DIOGELU GOFAL HANFODOL AR GYFER POBL HŶN
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrthi'n cynnal proses ymgysylltu ac ymgynghori fewnol gyda staff mewn perthynas â newidiadau i’r gwasanaethau a ddarperir yn Ysbyty Cymunedol Dewi Sant, gan gynnwys cynnig i gau Ward Lansdowne.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i atal y bwrdd rhag cau Ward Lansdowne. Nid yw’r gofal a ddarperir i gleifion hŷn yn dod i ben wrth iddynt adael ysbyty cyffredinol. Mae angen gwasanaethau adsefydlu arbenigol arnynt, ynghyd ag urddas, tosturi ac amser i wella'n ddiogel.
Mae'r tîm rhagorol sy’n gweithio yn Ward Lansdowne yn cydweithio er mwyn helpu cleifion i adennill eu hannibyniaeth, dychwelyd adref yn ddiogel gyda'r gofal sydd ei angen arnynt, neu symud i gartref nyrsio priodol. Rydym yn bodloni'r safonau gofynnol ac yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i gleifion.
Rhagor o fanylion
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ymchwilio i’r cynllun i gau Ward Lansdowne, gan fynnu atebion ynghylch ble bydd y cleifion oedrannus hyn, sy’n agored i niwed, yn mynd. Pa welyau a gwasanaethau adsefydlu amgen fydd ar gael? Sut fydd eu diogelwch, eu hurddas a'u hadferiad yn cael eu diogelu? Dylech sicrhau bod asesiad effaith llawn yn cael ei gynnal cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud. Mae ein cleifion oedrannus yn haeddu atebion, diogelwch a'r gofal sydd ei angen arnynt.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd