Deiseb Caniatáu i ddioddefwyr syndrom polyendocrin metabolaidd ofarïaidd (PMOS) gael mynediad at feddyginiaeth GLP-1 drwy’r GIG
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bobl gymwys sy’n dioddef o PMOS (a elwid gynt yn syndrom ofarïau polycystig, neu PCOS) fynediad teg at feddyginiaeth GLP-1 drwy’r GIG. Gall y cyflwr hormonaidd a metabolaidd cymhleth hwn achosi ymwrthedd i inswlin a chynyddu'r risg o ddiabetes math 2. Ni ddylai menywod orfod aros i'w hiechyd ddirywio cyn cael triniaeth briodol. Dylai mynediad fod yn seiliedig ar angen clinigol, yn hytrach na statws diabetes yn unig, a hynny er mwyn atal cymhlethdodau a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Rhagor o fanylion
Mae canllawiau 2023 ar PCOS, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, yn nodi y gellir ystyried meddyginiaethau rheoli pwysau, gan gynnwys semaglwtid a liraglwtid, ar gyfer oedolion sy’n dioddef o PCOS, ochr yn ochr ag ymyriadau o ran ffordd o fyw, yn dilyn asesiad clinigol. Mae'r canllawiau yn cydnabod effeithiau metabolaidd, cardiofasgwlaidd a seicolegol ehangach y cyflwr hwn, sy'n aml yn cael ei dan-gydnabod. Ar hyn o bryd, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn pennu meini prawf cymhwystra penodol ar gyfer meddyginiaethau rheoli pwysau a geir drwy'r GIG. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu'r meini prawf hyn fel y gellir ystyried pobl gymwys sy’n dioddef o PCOS, ynghyd â risgiau metabolaidd sylweddol, ar gyfer triniaeth, hyd yn oed os nad oes ganddynt ddiabetes. Ni ddylai menywod orfod aros am gymhlethdodau y gellir eu hatal cyn cael gofal priodol. Dylai mynediad gynnwys asesiadau arbenigol, monitro a chymorth parhaus, gyda phenderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth ac angen clinigol.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd