Deiseb Adolygu oedrannau sgrinio am ganser y fron yng Nghymru a gwella canfod canser yn gynnar a mynediad i fenywod o dan 50 oed
Cefais ddiagnosis o ganser ymledol y fron Gradd 3 pan oeddwn i ond yn 42 oed. Yng Nghymru, mae sgrinio arferol am ganser y fron yn dechrau ar ôl i fenywod droi’n 50 oed, ond mae menywod iau yn gallu datblygu canser y fron hefyd. Roedd tua 13% o ddiagnosau canser y fron yng Nghymru rhwng 2020 a 2022 yn ymwneud â menywod o dan 50 oed. Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu cymhwystra ar gyfer sgrinio i fenywod o 30 oed ymlaen, gan gynnwys sgrinio yn seiliedig ar risg a gwell ymwybyddiaeth. Mae pob menyw yn haeddu'r cyfle i ganser gael ei ganfod yn gynnar, ni waeth beth fo'i hoedran.
Rhagor o fanylion
Yn ôl yr Archwiliad Cenedlaethol o Ganser Cynradd y Fron yn 2025, roedd tua 13% o ddiagnosau canser y fron yng Nghymru rhwng 2020 a 2022 yn ymwneud â menywod o dan 50 oed, gan gynnwys tua 3% ar gyfer menywod o dan 40 oed.
Mae'r ffigurau hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod canser y fron yn effeithio ar fenywod na fydd y GIG yn eu gwahodd ar gyfer sgrinio fel mater o drefn.
Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth o gymhwystra ar gyfer sgrinio o 30 oed ymlaen, gan ystyried dulliau sgrinio sy'n briodol i oedran, asesiadau risg unigol, a mynediad cynharach i fenywod sy’n fwy tebygol o gael canser y fron.
Rwyf hefyd am weld addysg well am ganser y fron, mwy o ymwybyddiaeth o’r symptomau, ac asesiad amserol i fenywod iau sydd â phryderon ynghylch canser y fron.
Dylai unrhyw adolygiad ystyried manteision sgrinio, a’r niwed a all ddeillio ohono, gan gynnwys canlyniadau positif anghywir a gweithdrefnau diangen.
Fy nod yw helpu i wella canfod canser yn gynnar a sicrhau nad yw menywod iau ledled Cymru yn cael eu hesgeuluso.
Rhy ifanc ar gyfer eu sgrinio, ond digon hen i gael canser.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd