Deiseb Sicrhau bod myfyrwyr o Gymru ar gyrsiau dynodedig yn cael cefnogaeth gyfartal ar gyfer ffioedd dysgu a chymorth pontio

Gall myfyrwyr o Gymru ar gyrsiau a ddynodwyd yn benodol gael llai o gymorth ffioedd dysgu na myfyrwyr cymwys mewn mannau eraill yn y DU, sy’n gallu cael gafael ar fenthyciadau i dalu ffi lawn y cwrs. Mae fy mab, Ethan, yn astudio yng Nghampws Busnes Pêl-droed Prifysgol (UCFB) Manceinion. Ar gyfer 2026/27, mae ei fenthyciad ffioedd dysgu Cymru wedi'i gapio ar £6,525, gan adael diffyg blynyddol o £3,265. Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod hwn yn bolisi bwriadol ac nad oes ganddi gynlluniau ar gyfer adolygiad pellach. Mae hyn yn creu rhwystr ariannol annheg i addysg uwch i fyfyrwyr o Gymru.

Rhagor o fanylion

Mae Cymru yn siomi myfyrwyr o Gymru gyda system ariannu sy'n eu gadael mewn sefyllfa waeth o filoedd o bunnoedd na myfyrwyr cymwys mewn mannau eraill yn y DU.

Mae UCFB wedi cael dynodiad cwrs penodol trwy Medr, ond mae myfyrwyr o Gymru yn cael benthyciadau ffioedd dysgu is.

Mae gorfodi myfyrwyr i ariannu diffygion mawr yn peri risg o ddigalonni pobl ifanc Cymru a’u hatal rhag mynd i brifysgol. Gallai Cymru golli graddedigion y dyfodol, gweithwyr proffesiynol medrus a thalent y mae dirfawr ei hangen arni.

Rydym yn mynnu adolygiad, cefnogaeth i fyfyrwyr yr effeithir arnynt a chyllid ffioedd dysgu teg i fyfyrwyr o Gymru.

Llofnodi’r ddeiseb hon

11 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon