Deiseb Dylid diwygio'r Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn rhoi cymorth i berchnogion anifeiliaid anwes agored i niwed yn sgil argyfwng milfeddygol
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio meini prawf y Gronfa Cymorth Dewisol fel na wrthodir taliadau cymorth mewn argyfwng i unigolion ar incwm isel, unigolion anabl neu unigolion agored i niwed os yw eu hargyfwng ariannol yn deillio o fod angen talu am driniaeth filfeddygol frys i achub bywyd anifail.
Rhagor o fanylion
Mae yna bobl agored i niwed sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, salwch meddwl fel anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth neu anableddau, sy’n defnyddio eu harian prin i dalu am ofal milfeddygol brys ac annisgwyl i atal eu hanifeiliaid rhag dioddef. O dan y canllawiau presennol, mae ceisiadau a wneir am gymorth o’r Gronfa o dan yr amgylchiadau hyn yn cael eu gwrthod yn rheolaidd os yw pobl yn onest am eu gwariant. Mae anifeiliaid anwes yn ffynhonnell hanfodol o sicrwydd, ac yn gymorth iechyd meddwl ac adferiad i bobl. Mae gorfodi perchnogion cyfrifol i ddioddef caledi ariannol difrifol, a'u cosbi am atal creulondeb i anifeiliaid, yn achosi trawma, pryder ac ofn aruthrol. Rhaid diweddaru'r Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn cydnabod ffioedd milfeddygol brys fel gwariant argyfwng dilys, er mwyn sicrhau bod rhwydi diogelwch yn parhau i fod ar gael i berchnogion anifeiliaid anwes agored i niwed.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd