Deiseb Amddiffyn ein Merched: Mabwysiadu Polisi Dim Goddefgarwch tuag at Gam-Drin Rhywiol rhwng Cyfoedion

Mae gan Gymru System Goleuadau Traffig Ymddygiad Rhywiol Niweidiol sy'n cael ei defnyddio mewn ysgolion i leihau cam-drin rhywiol rhwng cyfoedion. Mae'r system yn amddiffyn troseddwyr dim ond oherwydd eu hoedran. Er mwyn osgoi atebolrwydd cyfreithiol, mae ysgolion yn aml yn cyfeirio at y digwyddiadau hyn fel "arbrofi" neu "gyffwrdd amhriodol", ni waeth pa effaith y maent wedi'i chael ar y dioddefwr. Gall poen, ofn a chywilydd y dioddefwr ddinistrio ei fywyd. Dylid mabwysiadu polisi dim goddefgarwch tuag at y digwyddiadau hyn.

Rhagor o fanylion

Oherwydd rheoliadau sy'n ymwneud â phreifatrwydd a chyfrinachedd, mae llawer o ddioddefwyr a'u teuluoedd yn cael eu tawelu a’u hynysu. Mae troseddwyr yn cael eu hamddiffyn yn rheolaidd, ac mae dioddefwyr yn gorfod parhau i fynychu'r un lleoliadau addysgol â nhw.

O dan y polisi, rhaid i gam-drin rhywiol ddigwydd fwy nag unwaith neu ffurfio patrwm cyn y gellir gwahardd rhywun. Fodd bynnag, mae un digwyddiad, un drosedd, yn ddigon i ddifetha bywyd plentyn. Yn Lloegr, mae plant yn cael mwy o amddiffyniad o dan bolisi dim goddefgarwch nag y mae plant yng Nghymru yn ei gael. Mae angen mwy o gefnogaeth ar deuluoedd dioddefwyr, sy'n aml yn gorfod chwilio am ysgol arall neu ddewis addysg ddewisol yn y cartref. Mae dioddefwyr yn cael eu gorfodi i guddio ac osgoi eu troseddwr, heb unrhyw amddiffyniad. Mae hyn yn parhau'r trawma a'r effeithiau sy'n deillio ohono. Byddai polisi dim goddefgarwch yn cynnig mwy o amddiffyniad i blant ac yn sicrhau bod troseddwyr dan oed yn cael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd. Dylai adsefydlu ddigwydd y tu allan i'r ysgol, a'r troseddwr, nid y dioddefwr, ddylai talu’r pris am yr hyn sydd wedi digwydd.

Llofnodi’r ddeiseb hon

4 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon