Deiseb Dylid adolygu'r rheolau sy’n ymwneud ag atal Aelodau etholedig rhag siarad yn y Senedd

Gofynnodd Joe Martin AS gwestiwn am newid demograffig, cyfraddau geni a rhagfynegiad y gallai pobl wyn Prydeinig fod yn lleiafrif erbyn y flwyddyn 2063. Gwnaeth y Llywydd ddyfarnu bod ei sylwadau’n wahaniaethol a’i wahardd rhag siarad yn y Siambr nes iddo ymddiheuro. Mae hyn yn codi pryderon ynghylch achos posibl o gamddefnyddio awdurdod i fygu dadl gyfreithlon, gan adael etholwyr heb lais. Pa fesurau diogelu sy’n bodoli i atal pwerau o’r fath rhag cael eu camddefnyddio?

Rhagor o fanylion

Rydym yn galw ar y Senedd i adolygu Rheol Sefydlog 13.9 a'r pŵer i atal Aelodau etholedig rhag siarad.

Yn dilyn y penderfyniad ar 10 Tachwedd 2026 i atal Joe Martin AS rhag siarad yn y Siambr nes iddo ymddiheuro, mae pryderon wedi’u codi ynghylch achosion posibl o gamddefnyddio pŵer i fygu dadl a gadael etholwyr heb lais.

Mae cynnal trafodaethau parchus a gwarchod pobl rhag gwahaniaethu yn bwysig. Ond rhaid sicrhau bod cwestiynau dadleuol ynghylch mewnfudo, newid demograffig a pholisi cyhoeddus yn parhau i fod yn destun gwaith craffu democrataidd.

Gofynnwn i'r Senedd sefydlu meini prawf clir, cymesur a thryloyw o ran cyfyngu ar yr hawl i siarad, ynghyd â phroses adolygu annibynnol a mesurau diogelu i sicrhau nad yw awdurdod y Llywydd yn cael ei gamddefnyddio.

Ni ddylid defnyddio safonau seneddol i dawelu cynrychiolwyr etholedig na mygu trafodaethau ynghylch pryderon cyhoeddus dilys.

Llofnodi’r ddeiseb hon

6 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon