Deiseb Gwrthdroi’r cynnydd yn yr Isafbris Uned o 65c ar gyfer alcohol ac adolygu effeithiolrwydd y polisi
Ar 1 Hydref 2026, cododd isafbris uned alcohol yng Nghymru o 50c i 65c yr uned – cynnydd o 30%. Nid oes gan Loegr isafbris uned, sy’n creu bylchau mawr o ran pris ac sy'n taro aelwydydd Cymru yn ystod yr argyfwng costau byw. Yn ôl gwerthusiadau Llywodraeth Cymru, roedd y polisi gwreiddiol o 50c wedi cynyddu'r straen ariannol ar yfwyr incwm isel (rhai’n mynd heb fwyd neu ddim yn talu biliau) tra bod marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn benodol yn dal i godi i’r lefelau uchaf erioed. Rydym yn gofyn am i'r cynnydd gael ei wrthdroi ac i adolygu effaith wirioneddol y polisi.
Rhagor o fanylion
Tystiolaeth gyfyngedig o lwyddiant: Yn ôl gwaith gwerthuso Llywodraeth Cymru yn 2025, dim ond gostyngiadau cymedrol a welwyd yn y cynnyrch cryfder uchel rhataf. Roedd newidiadau ar y cyfan o ran yfed i'r rhan fwyaf o yfwyr yn gyfyngedig, ac roedd y gwerthusiad yn cael ei gymhlethu gan COVID, chwyddiant ac argyfwng costau byw. Rhagamcanion yw’r manteision sydd wedi'u modelu (~900 yn llai o farwolaethau dros 20 mlynedd), ac nid canlyniadau a welwyd o'r cyfnod a gwmpesir gan y gwerthusiadau.
Costau: Mae cymariaethau prisiau yn y cyfryngau yn dangos bylchau mawr gyda Lloegr (e.e. pecyn o 18 Stella £23.69 yng Nglannau Dyfrdwy o gymharu â £11.99 yng Nghaer; basged Nadoligaidd ~£35 yn fwy yng Nglannau Dyfrdwy). Roedd y gwerthusiadau yn nodi straen ariannol ar yfwyr incwm isel, gyda rhai’n mynd heb fwyd neu ddim yn talu biliau. Mae siopa ochr arall y ffin yn golygu bod gwariant yn mynd o economi Cymru.
Tystiolaeth o fethiant: Cyrhaeddodd marwolaethau sy’n ymwneud yn benodol ag alcohol y nifer uchaf erioed o 562 yn 2023 ar ôl i'r isafbris uned ddechrau yn 2020. Yn 2024 roedd y gyfradd yn dal yn uwch yng Nghymru (16.8 fesul 100k) nag yn Lloegr (13.8). Dylid gwrthdroi’r cynnydd o 65c tra’n disgwyl adolygiad clir o’r canlyniadau gwirioneddol.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd