Deiseb Dylid gweithredu hawl i ddewis i gleifion y GIG yng Nghymru sydd ar restrau aros sy'n fwy na blwyddyn
Rydw i wedi bod ar restr aros y GIG yng Nghymru ers mis Mawrth 2026. Dywedwyd wrthyf yn ddiweddar bod y rhestr aros am asesiad yr ydw i arni yn hwy nag 8 mlynedd. Yn Lloegr, mae gan gleifion hawl gyfreithiol i ddewis unrhyw ddarparwr y GIG pan fydd eu harhosiad lleol yn rhy hir. Nid oes gan Gymru ddewis cyffelyb. Mae'r ddeiseb hon yn gofyn am Hawl i Ddewis unwaith y bydd claf wedi aros am ragor na blwyddyn, a hynny fel rhwyd ddiogelwch, nid yn lle gwasanaethau lleol. Ni ddylai neb orfod aros cyhyd am asesiad na thriniaeth yng Nghymru.
Rhagor o fanylion
Mae’r Hawl i Ddewis yn Lloegr (Rheoliad 39, Rheoliadau Bwrdd Comisiynu'r GIG 2012) wedi gweithredu ers dros 10 mlynedd ar draws pob gwasanaeth dewisol, heb i'r system fethu. Yng Nghymru, dim ond 64.2% o lwybrau a gyrhaeddodd y safon 26 wythnos (Awst 2026). Mae ychydig o dan 5,100 o lwybrau wedi aros dros 2 flynedd. Mae sbardun 1 flwyddyn yn geidwadol, ac ymhell uwchlaw y safon 18 wythnos yn Lloegr. Dim ond ar gyfer cleifion sydd eisoes wedi'u gadael ar ôl y mae'n cael ei weithredu. Mae hyn yn ategu, nid yn disodli, comisiynu lleol. Drwy roi opsiynau i gleifion, mae'n helpu i'w tynnu oddi ar restrau aros, ac yn rhyddhau capasiti i'r rhai sy'n dal i aros. Gallai gweithredu’r cam hwn fynd rhagddo drwy offeryn statudol o dan Ddeddf y GIG (Cymru) 2006.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd