Deiseb a wrthodwyd Capio a lleihau y nifer o dai haf yng Nghymru, a hybu defnyddio cyfleusterau gwyliau yn lle

Mae Cymru mewn argyfwng. Dros y blynyddoedd diwethaf mae tai haf wedi dod yn bla yn ein cymunedau ni, gyda thai bach fforddiadwy'n cael ei chipio o'r farchnad, a phobl ifanc ym methu byw yn eu bröydd. Yng Ngwynedd, daeth y ffigwr erchyll fod 40% o dai wedi cael eu gwerthu fel tai haf, tra bod 60% o boblogaeth y sir ym methu fforddio prynu tai yn yr ardal! Pa obaith felly sydd i'n gymunedau Cymraeg ni os yw'r fath beth ym mynd ymlaen? Mae angen newid nawr er lles dyfodol yr Iaith a'n cymunedau.

Rhagor o fanylion

Galwn ar Lywodraeth Cymru i gapio'r nifer o dai haf sydd ym mhob ardal, gan ddigalonni a lleihau'r nifer o dai haf sydd yma hefyd. Mi allai hyn gael ei wneud drwy godi trethi'n uwch eto ar dai haf a chau pob twll "loophole" sydd i ddianc o hyn. Mae'n bwysig i'r Senedd dynnu mwy o bobl i ddefnyddio cyfleusterau gwyliau sydd gan y ni'n barod, megis : Meysydd gwersylla a charafanio / cabannau pren / gwestai teuluol fyddai'n sicr yn dod a fwy o arian mewn i'n heconomi ni. Mae'n bwysig i'r Llywodraeth hefyd drafod gyda'r cynghorau lleol yn ogystal â'r cynghorau bro hefyd i wneud yn siŵr fod pob llais yn cael ei glywed ar y mater.

Mae agweddau eraill hefyd angen mynd ati i daclo, sef gwneud yn siŵr fod cefnogaeth yn cael ei ddangos at fentrau lleol sy'n rhoi cyflog teg i bobl gael prynu tai.

Dim ond drwy weithredu'n gyflym a'n gadarn cawn ni weld gwahaniaeth a newid o bwys yn digwydd. Mae'n bryd i ni weld y newid sydd angen cael ei wneud yn digwydd.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.

Er mwyn mynd ati’n ffurfiol i leihau nifer y cartrefi gwyliau mewn ardal benodol, mae’n debygol y byddai’n rhaid rheoleiddio neu gyfyngu ar allu unigolion i brynu eiddo. Byddai hynny’n golygu newid y gyfraith gyfredol o ran eiddo, sy’n fater a gedwir yn ôl gan Senedd y DU. Yn sgil hynny, nid oes modd i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.

Efallai y gallwn dderbyn deiseb wahanol sy’n awgrymu mesurau penodol i reoli perchnogaeth cartrefi gwyliau, neu efallai y bydd rhai o’r deisebau cyfredol a blaenorol o ddiddordeb i chi:

Mae modd llofnodi’r ddeiseb a ganlyn yn ar hyn o bryd, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i orchymyn cynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/200138

Cafodd deiseb arall yn galw am dreth ar ail gartrefi ei chai gan y Pwyllgor Deisebau ar 10 Mawrth 2020: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1499

Mae rhagor o wybodaeth am bwerau deddfwriaethol y Senedd i’w gweld yma:
https://senedd.wales/cy/abthome/role-of-assembly-how-it-works/Pages/Powers.aspx

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi